Sain Records

Meinir Heulyn - Ar Lan y Môr

Meinir Heulyn - Ar Lan y Môr

Rhai o ganeuon ac alawon gwerin enwocaf Cymru wedi eu trefnu’n grefftus gan Meinir Heulyn.

Dywed Meinir am y casgliad sydd ar CD newydd Ar Lan y Môr. “Wedi 30 mlynedd gyda’r Opera, rwyf nawr yn dod yn ôl at y gwreiddiau a’r traddodiad gwerin. Mae’n bryd i rywun gofnodi’r holl alawon Cymreig yma cyn i bobol fy nghenhedlaeth i ddiflannu, achos ‘cerddoriaeth y byd’ sy’n cael blaenoriaeth y dyddiau hyn. Ar y CD yma, rwyf wedi cynnwys nifer o fy nhrefniannau fy hun ar y delyn bedal a’r Geltaidd – o Ar Lan y Môr i Lisa Lân, ac o Cân y Ddau Aderyn i Dair Jig o Gymru.”

Bydd trefniannau Meinir a’i chwarae celfydd yn eich swyno’n llwyr wrth iddi eich tywys i fyd cyfarwydd ein hoff ganeuon gwerin. Casgliad i’w drysori yn sicr.

  • Rhifnod : Sain SCD2445
  • Label: Sain
  • Genre: Folk
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2004

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords