Sain Records

Sarah Louise - Tir Na-Nôg

Sarah Louise - Tir Na-Nôg

Mae Sarah yn gyfansoddwraig fedrus sydd �‘r gallu i gymysgu nifer o elfennau cerddorol i greu caneuon newydd a ffres. Ymhilth ei dylanwadau cerddorol mae artistiaid fel Dido, Alanis Morrisette a Sarah McLachlan – artistiaid sydd hefyd yn plethu arddulliau jazz, gwlad a roc i greu cerddoriaeth newydd a chyfforus. Mae ei chaneuon yn deillio o brofiadau angerddol a didwyll.

Ar hyn o bryd, mae Sarah yn fyfyrwraig yn Mhrifysgol Cymru, Bangor yn astudio BA Ysgrifennu Creadigol a Newyddiaduriaeth. Mae hefyd wedi cyhoeddi ychydig o farddoniaeth. Bu’n chwaeae’r piano ers yn ifanc, ac yn cyfansoddi’n gyson ar y piano adre. Mae’r ton newydd o gantorion gyfansoddwyr Cymraeg yn galondid mawr iddi ac mi hoffai gyd-weithio gydag artistiaid eraill yn y dyfodol.

Mae ganeddi gefndir diwylliannol eang, gyda gwreiddiau teuluol yng Ngwlad Pwyl ac Iwerddon. Mae’n gobeithio daw’r dylanwadau yma a rhywbeth newydd i gerddoriaeth Cymru.

Gyda’r pleser mwyaf mae cwmni recordiau SAIN yn cyhoeddi cryno ddisg cyntaf unigol y gantores ifanc o Gaernarfon; Sarah Louise.

  • Rhifnod : Sain SCD2470
  • Label: Sain
  • Genre: Folk
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2005

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords