Sain Records

Tara Bethan - 'Does Neb yn fy 'Nabod i

Tara Bethan - 'Does Neb yn fy 'Nabod i

O wybod am ei chefndir, doedd hi ddim yn syndod i neb fod Tara Bethan wedi cael ei hun ar y llwyfan. Yn ferch i un o gymeriadau mwyaf lliwgar y llwyfan Cymreig, roedd perfformio yn y gwaed, a daeth Tara i amlygrwydd yn ifanc iawn ar lwyfan eisteddfod a chyngerdd fel cantores a dawnswraig dalentog. Ac erbyn hyn mae’r dalent naturiol hwnnw wedi blodeuo i greu perfformwraig gyflawn; mae’r un asbri i’w weld ac oedd yn amlwg yn ei perfformiadau cynnar, ond cabolwyd hwnnw erbyn hyn gyda chynildeb a sensitifrwydd y gwir artist; mae’r un pwer yna hefyd, ond wedi ei leddfu i fedru cyflwyno tynerwch yn ogystal ag angerdd.

Ar yr albym gyntaf hon, mae Tara yn dehongli caneuon a sgrifennwyd yn bennaf gan ferched, yn cynnwys rhai o’i gwaith ei hun ac wyth gan Gwenno Dafydd a Heulwen Thomas, gyda chymorth nifer i gerddorion amryddawn dan gyfarwyddyd Peter Williams.

Bydd Tara yn mynd ar daith yn ystod mis Medi/ Hydref i hyrwyddo’r albym newydd ac mi fydd yn brysur iawn wythnos nesaf fel un o d�m cyflwynwyr yr Eisteddfod – mi fydd yn gohebu ar wahanol ddigwyddiadau o faes y briwyl i S4C. Os ydych am wrando ar Tara yn perfformio caneuon oddi ar yr albym newydd galwch draw i stondin SAIN ar faes yr Eisteddfod – 2 o’r gloch pnawn Dydd Llun Awst 1af.

Lawrlwytho Yn Unig
£9.99

  • Rhifnod : Sain SCD2486
  • Label: Sain
  • Genre: Folk
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2005

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords