Sain Records

Iona ac Andy - Y Ffordd

Iona ac Andy - Y Ffordd

Mae’r ddeuawd canu gwlad o Chwilog mor brysur ag erioed wrth iddynt baratoi i ryddhau eu chweched albwm ar label SAIN. Mae ‘Y Ffordd’ yn albwm sy’n cwmpasu nifer o arddulliau gan gynnwys canu gwlad, acwstig, gwerin, roc a baledi pwerus. Ysgrifennwyd nifer o’r caneuon gan gyfansoddwyr fel Meic Stevens, Huw Chiswell, Alun Sbardun Hughes, Eurof Williams, Alistair James, y gyfansoddwraig Americanaidd Kathy Chiavola, yn ogystal â Iona ac Andy eu hunain. Cynhyrchwyd yr albwm gan Maartin Allcock, cerddor a chynhyrchydd amryddawn sydd â blynyddoedd o brofiad yn perfformio gyda rhai o enwau mawr canu gwerin ym Mhrydain – Cat Stevens, Jethro Tull, Fairport Convention, Beth Nielsen Chapman a mwy. Mae Maart a’i wraig wedi ymgartrefu ym mhentref Llanfair ger Harlech, ac mae Maart yn falch o’r cyfle i ymarfer ei Gymraeg wrth weithio yn stiwdio SAIN.
Yn gynt yn y flwyddyn bu Iona ac Andy yn teithio’r UDA gyda nifer o’u cefnogwyr a daeth cyfle iddynt berfformio gyda chantores bluegrass enwog o Nashville, Kathy Chiavola. ‘Roedd Kathy yn lansio’i cd newydd yn y Station Inn yn Nashville ac mi ofynnodd i ni berfformio cân neu ddwy gyda’i band, ‘da ni’n ffrindiau ers blynyddoedd bellach ac yn perfformio un o’i chaneuon ar ein record newydd’; medd Iona. ‘Roedd y band yn wych, Kenny Malone – cyn drymiwr i Johnny Cash, Dave Pomeroy – cyn fasydd i Don Williams ac ar y mandolin oedd Brent Truitt. Profiad anhygoel a rhywbeth na anghofia’i fyth!’ Ers dychwelyd o’r UDA ym mis Mehefin mae’r ddeuawd wedi teithio bob cwr o Brydain i berfformio, llwyfannu un o wyliau canu gwlad fwyaf Ewrop yn Llandudno a threfnu ac arwain dau lond bws o deithwyr i’r Almaen am wythnos. Dydi’r cyfnod rhwng lansio’r albwm a’r Nadolig yn arafu llawer iddynt chwaith – mae nifer o gyngherddau ar y gweill ac mae’n gyfnod cynllunio teithiau 2008 sef ymweliad a Thunisia a thaith 3 wythnos i Seland Newydd. Yn sicr mae Iona ac Andy yn adnabod ‘Y Ffordd’ yn dda ac yn mwynhau pob eiliad o’u taith!

  • Rhifnod : Sain SCD2541
  • Label: Sain
  • Genre: Country
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2007

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords