Sain Records

Stuart Burrows - Ffefrynnau Cymraeg a Saesneg / Welsh & English Favourites

Stuart Burrows - Ffefrynnau Cymraeg a Saesneg / Welsh & English Favourites

“Ffefrynnau Cymraeg a Saesneg”: 17 o ganeuon a recordiwyd pan oedd llais un o’n prif denoriaid ar ei orau. Un o’r casgliadau tenor gorau erioed o’i bath.

Ganwyd Stuart Burrows yng Nghilfynydd, ger Pontypridd, ar Chwefror 7fed, 1933. Cafodd ei addysg bellach yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, a bu’n athro am rai blynyddoedd. Roedd yn chwaraewr rygbi disglair, a chafodd gynnig cytundeb gyda Chlwb Rygbi Leeds, ond gwrthod a wnaeth, a phenderfynu ar yrfa fel canwr proffesiynol

Daeth i amlygrwydd cenedlaethol gyntaf yng Nghymru pan enillodd y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon yn 1959. Bedair mlynedd yn ddiweddarach, ymddangosodd am y tro cyntaf ar lwyfan Opera Genedlaethol Cymru yn Nabucco. Fe’i gwelwyd yn canu gan Stravinsky a drefnodd iddo ganu yng Ngwyl Athen yn 1967, a gwnaeth ei berfformiadau syfrdanol yn Oedipus Rex yno gipio sylw’r byd opera, a dechreuwyd sôn amdano fel tenor telynegol o’r radd flaenaf un.

Bu’n canu yn y mwyafrif o dai opera enwoca’r byd, mewn amrywiaeth o rannau, a daeth yn fyd-enwog fel dehonglwr gwaith Mozart. Yn wir, bernir ef gan sawl beirniad fel un o’r cantorion Mozart gorau erioed. Yn neuadd enwog Carnegie yn Efrog Newydd, mae rhestr yr arweinyddion y bu’n gweithio gyda nhw yn cynnwys Georg Solti, Zubin Mehta, Seiji Ozawa, Leonard Bernstein ac Eugene Ormandy. A Stuart Burrows sydd wedi ymddangos ar lwyfan y Met yn Efrog Newydd am y nifer fwyaf o dymhorau yn olynol o holl gantorion gwledydd Prydain.

Bu’n wyneb a llais adnabyddus ar deledu , yn arbennig felly gyda’i gyfres i’r BBC o’r enw Stuart Burrows Sings, ac enwogodd ei hun hefyd fel dehonglwr caneuon Cymraeg. Er nad yw’n gwbl rugl yn y Gymraeg, mae ei ynganu Cymraeg yn gyson ddi-ffael, ac yn hyn o beth roedd yn dibynnu ar gyngor ei gyfaill y Prifardd Rhydwen Williams am flynyddoedd.

Anrhydeddwyd Stuart Burrows gan Ddoethuriaeth Prifysgol Cymru yn 1981, ac fe’i gwnaed yn Gymrawd y Brifysgol yn 1992, yn ogystal â Chymrawd o Goleg y Drindod, Caerfyrddin. Yn 2007, cyflwynwyd iddo’r OBE, a’r flwyddyn ganlynol cafodd Ryddfraint Cyngor Sir Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf. Mae’n byw ym mhentref SAIN Ffagan ger Caerdydd.
Cyflwyniad gan Rhys Jones:
Beth, tybed yw’r gyfrinach? Sut y gall gwlad fechan fel Cymru gynhyrchu cymaint o gantorion gwych? Yn ôl yn y ganrif ddiwethaf roedd cymaint o Gymry’n canu yng nghwmni opera Sadler’s Wells fe gynigiodd rhywun y dylid ail-enwi’r cwmni yn “Sadler’s Welsh”!
Mae hanes tenoriaid Cymru’n mynd yn ôl i’r 19eg ganrif ac at gantorion megis Dyfed Lewys, Maldwyn Humphreys a Hirwen Jones. Addysgwyd y tri yn yr Academi Brenhinol yn Llundain, ac aethant ymlaen i fwynhau gyrfaoedd hynod lwyddiannus.
Tenor mwyaf poblogaidd Prydain ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf oedd y canwr o Bontardawe Ben Davies, gwr a gafodd ei hyfforddi gan Gymro arall, Eos Morlais. Ychwanegwch enwau Evan Williams, Hughes Macklin, Dan Jones, Tudor Davies, Trefor Jones, Rowland Jones a David Lloyd, a dyna restr sy’n destun balchder mawr i ni’r Cymry.
Ac yn eu canol, mewn safle anrhydeddus, fe saif y tenor o Gilfynydd Stuart Burrows.
Wedi ei lwyddiant yn ennill Rhuban Glas Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn y flwyddyn 1959 – fe aeth Stuart Burrows o’i wobr at ei waith. Fe ddaeth i’w ran gyngherddau lu, yma yng Nghymru a thros Glawdd Offa. O fewn dim bron rhaid oedd i’r athro ifanc ystyried ei ddyfodol ym myd cerdd. Fe drodd i fyd y proffesiynol, ac yn fuan iawn fe sefydlodd ei hun fel un o denoriaid mwyaf deniadol ei gyfnod. Roedd yr un mor gartrefol ar lwyfan y cyngerdd ac yr oedd ar lwyfan yr opera, a thros gyfnod hir cafodd brofi poblogrwydd anghyffredin ar hyd a lled y byd. Yn wir, fe fu ei ddehongliadau o gerddoriaeth Mozart yn arbennig yn addurn i dai opera pwysicaf y byd. Ond ynghanol hyn oll, fel y tystia ei recordiau, fe gofiodd ei Gymreictod, ac roedd perfformiadau Stuart o’r ‘Hen Ganiadau’ yn rhan allweddol o’i repertoire cyfoethog.
Mae’r casgliad newydd gwych yma’n siwr o dderbyn croeso gan ei lu edmygwyr. Dyma denor dihafal – llais perSAIN, dehongli ystyrlawn a chanu eneiniedig. Does ryfedd yn y byd iddo ddenu sylw, canmoliaeth ac edmygedd rhai o feirniaid cerdd pwysicaf ei ddydd.

Rhys Jones,
Ionawr 2010.

  • Rhifnod : Sain SCD2556
  • Label: Sain
  • Genre: Classical
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2009

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords