Sain Records

Côr Meibion Cwmbach - Take Me Home

Côr Meibion Cwmbach - Take Me Home

Un o gorau prysuraf Cymru, bu’n cystadlu ym mhob un o brif Eisteddfodau Cymru ac mewn gwyliau rhyngwladol yn cynnwys y Bela Bartok (Hwngari), Catalunya, Corc, Limerick a Roodeporte (De Affrica). Dros y blynyddoedd, cafodd yr aelodau y fraint o ganu gyda chantorion o fri megis Paul Robeson, Syr Geraint Evans, Stuart Borrows a’r Fonesig Gwyneth Jones, ac i gyfeiliant cerddorfeydd fel yr Hallé a’r Ffilharmonig a bandiau fel y Blackdykes Mills, y Parc and Dare a Band Llynges De Affrica. Bu’r côr hefyd yn perfformio mewn nifer o brif ganolfannau Prydain, o Abatai i’r CIA yng Nghaerdydd, a bu ar deithiau canu i naw o wledydd tramor. Adlewyrchir ei hanes lliwgar yn amrywiaeth y canu – o emynau i gytganau opera, ac o ganeuon gwerin i ganeuon o’r sioeau, ac y mae’r amrywiaeth cyfoethog hwn yn amlwg ar y 7 cryno-ddisg o’i eiddo.
Ymhlith uchafbwyntiau ei hanes mae :
· y côr cyntaf o Gymru i ganu tu hwnt i’r ‘Llen Haearn’ (Hwngari, 1961)
· y côr cyntaf i ganu ym Mharc yr Arfau cyn gêm rygbi rhyngwladol
· y côr a ddewiswyd i ganu i’r gwesteion yng nghinio olaf Cwpan Rygbi’r Byd, 1999.

Mewn Stoc
£9.99

  • Rhifnod : Sain SCD2563
  • Label: Sain
  • Genre: Classical
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2007

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords