Sain Records

Gwenan Gibbard - Sidan Glas

Gwenan Gibbard - Sidan Glas

Ail gasgliad disglair y delynores, y gantores a’r
gyfansoddwraig o Benrhyn Llyn.

Gyda chyhoeddi “Y Gwenith Gwynnaf” (SAIN SCD 2504) yn 2006, gwelwyd fod talent newydd o bwys yn ffurfafen y byd gwerin Cymraeg, ac mae hen ddisgwyl wedi bod am yr ail albym hon gan Gwenan Gibbard. Mae’r casgliad hwn yn dangos ei doniau fel telynores, fel cantores, fel trefnydd ac hefyd fel cyfansoddwraig yn ei hawl ei hun, a’r doniau hynny’n cael eu sylweddoli i’r eithaf.Mae ‘Sidan Glas’ yn gasgliad blaengar o drefniannau newydd a chyffrous o’n caneuon a’n halawon gwerin Cymreig, gyda’r chwarae a’r canu wedi ei wreiddio’n ddwfn yng nghalon y traddodiad ac eto’n ffres a chyfoes. Yn gyfuniad perffaith o fywiogrwydd yr alawon dawns traddodiadol a’r hen benillion telyn a hiraeth a theimlad y caneuon gwerin, dyma albym sy’n arddangos amrywiaeth a chyfoeth y traddodiad gwerin Cymreig ar ei orau. Fe glywir sawl cân ac alaw anghyfarwydd – caneuon a fu’n boblogaidd sawl blwyddyn yn ôl ac alawon heb eu cyhoeddi o blith nifer o lawysgrifau y Llyfrgell Genedlaethol – y cyfan yn derbyn ymdriniaeth a threfniannau llawn gwreiddioldeb a newydd-deb gydag elfennau crosacennog a harmonïau atyniadol. Mae yma ganeuon ac alawon wedi eu cyfansoddi o’r newydd hefyd, yn ychwanegiad gwerthfawr i’r repertoire traddodiadol. Yn ymuno â Gwenan mae criw o gerddorion cydnabyddedig, amryddawn – y gitarydd Maartin Allcock (Jethro Tull, Fairport Convention, Bad Sheperds), y ffidlwr Stephen Rees (Crasdant), y ffliwtydd Dafydd Roberts (Ar Log), y ffidlwraig Angharad Jenkins (Calan), a Dewi Ellis Jones a’r cerddor Indiaidd Kuljit Bhamra (Bombay Dreams) ar yr offer taro. Y canlyniad yw cyfanwaith amryliw a chyfoethog sydd eto’n cadw’n driw i ysbryd ac anian y traddodiad gwerin Cymreig gan sicrhau lle blaenllaw i’r delyn a’r llais. Cryfder Gwenan fel artist yw ei bod wedi ei thrwytho ymhob agwedd o’r traddodiad Cymreig. Mae’n gyfarwydd â hanes a chefndir y caneuon a’r alawon, wedi gwneud llawer o’r ymchwil ei hun, ac yn rhan o’r traddodiad byw heddiw – yn perfformio mewn cyngherddau a gwyliau o bob math, yma yng Nghymru a thu hwnt, yn cynnwys Gwyl Delynau Caeredin, Gwyl Delynau Caernarfon, Celtic Colours (Nova Scotia, Canada), Gwyl Gymreig Gogledd America, Gwyl Ryng-Geltaidd Lorient, Cyngres Delynau’r Byd (Dulyn) a Celtic Connections (Glasgow). Mae’n cyfeilio mewn Eisteddfodau mawr a mân, yn rhan annatod o ddatblygiad cyffrous y Glerorfa (y gerddorfa werin newydd), ac yn gyfarwydd â phob cangen o’n traddodiad gwerin, gan gynnwys cerdd dant. Ar ‘Sidan Glas’ llwydda i weu yr holl agweddau hyn yn un tapestri lliwgar sy’n apelio at y pen a’r galon.

  • Rhifnod : Sain SCD2581
  • Label: Sain
  • Genre: Country
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2009

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords