Sain Records

Elin Fflur - Goreuon / The Best of

Elin Fflur - Goreuon / The Best of

Traciau mwyaf poblogaidd y gantores wych sy’n gallu disgleirio mewn sawl arddull.

18 O GLASURON Y GANTORES O FÔN

Cyflwynwyd Elin Fflur i’r byd ar record yn y flwyddyn 2002 yn sgil y Moniars ac Arfon Wyn, ac Arfon oedd yn gyfrifol am y gân a wnaeth Elin yn enwog – “Harbwr Diogel”. Yn fuan iawn, drwy gyfrwng ei hymddangosiadau byw ac ar deledu, gwelwyd fod yma dalent newydd arbennig iawn. Nid yn unig yr oedd gan Elin Fflur bresenoldeb llwyfan anhygoel, ond yr oedd ei gallu lleisiol yn medru cwmpasu sawl math o gerddoriaeth, yn anwylo cân serch draddodiadol un munud, ac yn ein synnu â phwer soniarus ei llais y munud nesa mewn clamp o gân roc. At hyn ychwanegwch ei greddf gerddorol naturiol, ei dawn fel cyfansoddwraig a’i phersonoliaeth heulog, ac y mae gennych rysait berffaith am wledd! Mwynhewch y casgliad hwn o ddeunaw o’i chaneuon enwocaf.

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords