Sain Records

Côr Meibion Beaufort - This is the Moment

Côr Meibion Beaufort - This is the Moment

Mae Côr Meibion Beaufort yn un o gorau hynaf Cymru, yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Fe’i ail-ffurfiwyd ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ac y mae cyhoeddi’r albym yma’n dathlu 60 mlynedd o ganu.
Roedd y pwyslais ar y dechrau ar gystadlu mewn Eisteddfodau, a gwnaed hynny gyda chryn lwyddiant, ond gwell gan y côr presennol ganolbwyntio ar gyngherddau, gan fod hynny’n agor y ffordd i berfformio ar lwyfannau newydd, ac mewn gwledydd led-led y byd. Dros y blynyddoedd diwethaf, bu’r côr ar deithiau canu i’r Almaen, Yr Iseldiroedd, Taleithiau Unedig America a Japan.
Ymhlith uchafbwyntiau diweddar roedd y cyfle i ganu yng ngwydd gwladweinwyr ym Mhalas Kensington, a gydag artistiaid megis Rhydian. O dan arweiniad CRAIg James, mae rhaglen y côr wedi ehangu i gynnwys popeth o emynau Cymraeg i ganeuon o’r sioeau diweddaraf, yn ogystal â chlasuron traddodiadol y byd corau meibion.

  • Rhifnod : Sain SCD2623
  • Label: Sain
  • Genre: Choral
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2009

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords