Sain Records

Artistiaid Amrywiol - Traddodiad Canu Gwerin Cymru / The Folk Music of Wales

Artistiaid Amrywiol - Traddodiad Canu Gwerin Cymru / The Folk Music of Wales

Casgliad yn cynnwys cerddorion a chantorion gwerin amlycaf Cymru – ddoe a heddiw. Cynhyrchiad ar y cyd rhwng SAIN a SAIN Ffagan

TRADDODIAD CANU GWERIN CYMRU Cyflwyniad Dafydd Iwan:Daeth y syniad am y casgliad hwn wrth imi drafod gydag Owain Rhys o Amgueddfa Werin SAIN Ffagan y ffaith fod SAIN yn 40 oed yn 2009, a’r Amgueddfa Genedlaethol yn dathlu cerddoriaeth Cymru dan faner “Cerdd 2009”. Bu SAIN yn cydweithio gydag archif gerddoriaeth SAIN Ffagan ers blynyddoedd, yn enwedig gyda’r ddau gasgliad o Ganu Plygain a Chaneuon Llofft Stabal, sydd i’w clywed bellach ar un CD (SAIN SCD 2389). Bu’r gwaith a ddechreuwyd gan Vincent Phillips, ac a ddatblygwyd gan Roy Saer yn drysorfa o wybodaeth am ein caneuon traddodiadol, ac yn ffynhonell bwysig i’r cerddorion a’r cantorion sydd wrthi heddiw yn rhoi bywyd newydd i’r traddodiad gwerin Cymraeg.Bwriad y casgliad hwn yn syml felly yw dathlu’r traddodiad, gan roi blas o’r canu traddodiadol a’r hyn a wneir heddiw wrth ddatblygu’r traddodiad hwnnw, ar lafar ac yn offerynnol.Disg Un: Y Traddodiad Gwerin CymreigWrth gywain y traciau yma ynghyd, daw nifer o nodweddion diddorol i’r amlwg. Er enghraifft, mae’r traddodiad canu gwerin yn y gorffennol wedi bod yn un lle mae’r dynion yn llawer amlycach na’r merched. O grafu dan yr wyneb fodd bynnag, mae’n amlwg mai gan y merched y dysgodd y dynion lawer o’r caneuon hyn, ac y mae’r Dr. Meredydd Evans ei hun yn cydnabod yn barod mai gan ei fam yn bennaf y clywodd yntau gyfoeth ein canu gwerin, ac y bu dwy wraig arall yn ddylanwad mawr arno hefyd, sef Enid Parry a Phyllis Kinney. Yn ôl archif SAIN yr amgueddfa fodd bynnag, dynion oedd barotaf i ganu i’r meicroffon, ac fe’u cynrychiolir nhw yma gan John Thomas , Mathri, Sir Benfro a’r anghymarol Bertie Stephens o Langeitho, a Pharti Fronheulog gyda’u clasur o garol blygain “Ar gyfer heddiw’r bore”. Daw’r Parti o ganol bro’r plygain ym Maldwyn, a diddorol sylwi mai o ganolbarth Cymru y daw llawer iawn o’r cerddorion a glywir yn y casgliad hwn, yn enwedig felly ar y ddisg gyntaf.Etifeddion y traddodiad hwnnw yw cantorion megis y diweddar Elfed Lewys, a wnaeth gymaint a neb i sicrhau ein bod yn ymwybodol o’n gwreiddiau cerddorol a’n hannog i beidio glasdwreiddio’n traddodiad yn ormodol, Arfon Gwilym – un arall sy’n fawr ei sêl a’i lafur yn y maes – Cogia Llanfihangel ac Emrys Jones, Llangwm. Mae’n bwysig hefyd ein bod yn cydnabod y cyfraniad a wnaed gan y radio, yn enwedig gwaith Sam Jones ym Mangor, ac y mae’n amheus a fyddem heddiw yn gallu gwrando ar afiaith Bob Tai’r Felin a chynildeb perSAIN Triawd y Coleg pe na bai am gyfnod “Noson Lawen” y BBC. Mae dylanwad y canu Plygain i’w glywed yn glir ar arddull y Cogia a’r Triawd, ac yn arbennig felly ar gynghanedd lleisiol y grwp gwerin Plethyn.Mae Linda Griffiths o Plethyn a’i chyd-gantores o Faldwyn Siân James yn rheng flaen ein cantorion, ac nid amlygrwydd y merched yw’r unig beth sy’n nodweddu’r byd gwerin cyfoes, ond hefyd y datblygiad mawr yn y maes offerynnol, maes yr oedd Nansi Richards, Telynores Maldwyn, yn ddylanwad mawr arno. Mae Crasdant, Rhes Ganol a Carreg Lafar yn enghreifftiau gwych o’r grwpiau offerynnol a ysbrydolwyd gan ei cherddoriaeth a’i hasbri rhyfeddol hi. Nodwedd arall o bwys yw’r modd y mae corau wedi datblygu trefniannau o lawer o’n halawon, ac y mae dehonglaid hyfryd Parti’r Efail o “Ceinion Conwy” yn enghraifft arbennig o hynny.Disg Dau: Y traddodiad cyfoesMae’r elfennau cyfoes a ddaeth i’r amlwg ar y ddisg gyntaf – sef cyfraniad blaengar y merched a’r grwpiau offerynnol – yn amlycach fyth ar yr ail ddisg. Merched yw’r prif leisiau yn y grwpiau Pigyn Clust (Ffion Haf), Mabsant (Siwsann George), 9bach (Lisa Brown) a Carreg Lafar (Linda Owen Jones), ac y mae Calan yn dystion ifanc afieithus i’r adfywiad parhaol yn y maes offerynnol. Teg yw dweud, wrth reswm, nad yw’r dynion wedi diflannu’n gyfangwbl o fyd y canu gwerin, ac y mae Crasdant yn arddangos yma y ddawn o gyfansoddi jigiau newydd sy’n tynnu eu hysbrydoliaeth o’r traddodiad. Mae elfen wrywaidd a chyhyrog – ac yn wir, o dynnu coes – i ganu ac arddull Mynediad am Ddim ac Ar Log, tra bod Gareth Bonello (“The Gentle Good”) yn rhoi gwedd dynerach ar y traddodiad, a 4 yn y Bar a Bob Delyn yn dwyn peth o ddylanwad y byd roc i’r maes gwerin. Mae Meibion Llywarch o ardal y Parc ym Mhenllyn yn parhau’r traddodiad o ganu di-gyfeiliant, a nifer o’r rhain yn dangos fel y gellir trefnu cân werin gyda thipyn o ddyfeisgarwch a hiwmor heb golli cymeriad a naws y gwreiddiol.At y rhain, cawn ragor o dystiolaeth o’r modd y mae’r merched wedi dylanwadu ar y maes, merched sydd wedi rhoi eu stamp eu hunain ar yr adfywiad gwerin, ac wedi cymhathu elfennau o fathau eraill o ganu – jas, blws a roc – i’w harddull: Lleuwen Steffan, Lisa Brown, Elin Fflur, Siwsann George a Siân James. Clywir llais hyfryd Linda Griffiths yma eto, gyda’r gitarydd a’r lleisiwr o Fôn Tudur Morgan, a llais Gwenan Gibbard gyda’i threfniant bywiog o “Gwenni aeth i ffair Pwllheli” i’w ch

  • Rhifnod : Sain SCD2626
  • Label: Sain
  • Genre: Compilation
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2009

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords