Sain Records

Mark Evans - Adre’n Ôl - The Journey Home

Mark Evans - Adre’n Ôl - The Journey Home

Mae Mark Evans, sy’n enedigol o Lanrhaeadr yng Nghinmeirch, ger Dinbych, bellach yn un o dalentau mwyaf amryddawn Cymru. Er nad yw ond 26 oed wrth recordio’r albym gyntaf hon, mae eisoes wedi gwneud enw iddo’i hun fel canwr, actor, dawnsiwr a choreograffydd, ac fel un o sêr y West End yn Llundain. I’r gynulleidfa Gymraeg, mae’n wyneb a llais cyfarwydd ar raglenni fel Dechrau Canu Dechrau Canmol, Wedi 7, Cyngherddau’r Eisteddfod Genedlaethol, Sioe Sian Cothi, Noson Lawen a’r Big Welsh Talent Concert.

Wedi bwrw ei brentisiaeth ym myd y theatr, bu’n gweithio’n galed i berffeithio sgiliau newydd ar y gylchdaith cyn sicrhau nifer o rannau blaenllaw. Mae’r rhain yn cynnwys y prif ran yn High School Musical, Brad Majors yn y Rocky Horror Show, Curly yn OKLAHOMA!, ac yn Chwefror 2011 cafodd ran Fiyero yn un o sioeau mwyaf llwyddiannus y West End, Wicked. Ymddangosodd hefyd mewn sawl ffilm, gan gynnwys rhan Brett yn Lake Placid 3, a rhan Chad yn Dead Hungry i Grain Media.

Daeth Mark i sylw miliynau trwy wledydd Prydain pan ymddangosodd ar y gyfres deledu Your Country Needs You gyda Andrew Lloyd Webber, a chyrraedd y rownd derfynol. Ers hynny, bu’n ymddangos yn rheolaidd ar deledu yng Nghymru, ac ar lwyfan y theatr a’r neuadd gyngerdd trwy Brydain gyfan.

  • Rhifnod : Sain SCD2652
  • Label: Sain
  • Genre:
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2011

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords