Sain Records

Artistiaid Amrywiol - Hon

Artistiaid Amrywiol - Hon

Gwelwyd cyfle gwych i greu casgliad o ganeuon dan y teitl ‘Hon’ gan bod cymaint o ferched yng Nghymru erbyn hyn mor amlwg yn y sîn roc/pop/gwerin Cymraeg. Yn wir, efallai mai cyfraniad y merched yw prif nodwedd canu Cymraeg cyfoes, a braf yw gweld mwy a mwy ohonyn nhw yn cyfansoddi caneuon eu hunain ac yn cael ymateb mor frwd gan y cyhoedd. Yn ogystal â chynnwys deunydd diweddar gan rai fel Georgia Ruth, Lleuwen Steffan a Fflur Dafydd, rydym hefyd wedi cynnwys clasuron gan Siân James, Caryl Parry Jones, Linda Griffiths a Heather Jones, a chyflwyno hefyd gantoresau llai adnabyddus sy’n sicr o wneud eu marc yn y dyfodol.
Ychwanegwch at y rhain dalentau disglair Elin Fflur, Calan, Meinir Gwilym, Gwyneth Glyn a Gwenan Gibbard, ac fe welwch fod yma gasgliad at ddant pawb!

Rhestr y Traciau

  1. Lleuwen Steffan - Bore Sadwrn
  2. Elin Fflur - Tybed Lle Mae Hi Heno
  3. Calan - Y Gwydr Glas
  4. Caryl Parry Jones - Adre
  5. Gwyneth Glyn - Angeline
  6. Lowri Evans - Aros am y Tren
  7. Gemma Markham - Y Caeau Aur
  8. Siân James - Y Wasgod
  9. Linda Griffiths - Gwybod bod 'na 'fory
  10. Fflur Dafydd - Rhoces
  11. Georgia Ruth - Hallt
  12. Meinir Gwilym - Haf
  13. Gwenan Gibbard - Glan Môr Heli
  14. Lois Eifion - Cain
  15. Sarah Louise - Tir Na-Nog
  16. Heather Jones - Mae'r Galon Hon
  • Rhifnod : Sain SCD2668
  • Label: Sain
  • Genre: Compilation
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2014

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords