Sain Records

10 Mewn Bws - 10 Mewn Bws

10 Mewn Bws - 10 Mewn Bws

Mae 10 Mewn Bws yn brosiect cerddoriaeth newydd a chyffrous a ddaeth â deg o gerddorion o gefndiroedd gwahanol ynghyd er mwyn cydweithio am gyfnod. Eu nod oedd ymchwilio i gerddoriaeth werin Gymreig, ac yna ei dehongli o’r newydd mewn ffyrdd fyddai’n berthnasol iddyn nhw ac i gynulleidfaoedd heddiw.
Dros gyfnod o wythnos, teithiodd y 10 cerddor ar draws Cymru mewn bws, yn ymweld â rhai o ‘ddoethion’ y sîn werin, ac i bori mewn casgliadau o gerddoriaeth werin mewn llyfrgelloedd ac amgueddfeydd o gwmpas y wlad.
Yn dilyn y daith, treuliodd y cerddorion wythnos yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy, yn trefnu cerddoriaeth draddodiadol, yn ogystal ag ysgrifennu deunydd newydd yn seiliedig ar eu
profiadau ar y bws.
Ar yr albym hwn, byddwch yn clywed dylanwadau roc a phop, clasurol ac electronica, yn ogystal â cherddoriaeth werin. Mae’r traciau’n amrywio o’r traddodiadol i’r arbrofol, a phob un yn cynrychioli personoliaeth y cerddorion a’u cefndiroedd cerddorol. Ein gobaith yw y bydd yr albym hwn yn herio unrhyw ystrydebau am gerddoriaeth werin o Gymru.

Rhestr y Traciau

  1. Wel Bachgen Ifanc Ydwyf 1
  2. Wel Bachgen Ifanc Ydwyf 2
  3. Alawon Huw
  4. Epynt
  5. Abram Wood
  6. Blodyn Aberdyfi
  7. Calennig
  8. Alawon fy Ngwlad
  9. Patagonia
  10. Caradog
  11. Y Gaseg Ddu
  • Rhifnod : Sain SCD2696
  • Label: SAIN
  • Genre: Folk
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2013

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords