Sain Records

Artistiaid Amrywiol - Caneuon Protest

Artistiaid Amrywiol - Caneuon Protest
Mewn unrhyw gymdeithas wâr, mae lle i brotest ac i ymgyrchu, ac i gicio yn erbyn y tresi. Arwydd o iechyd unrhyw ddiwylliant yw bod y caneuon a genir hefyd yn mynegi’r brotest honno o bryd i’w gilydd. Cyhoeddir y casgliad hwn o 30 ganeuon protest Cymraeg i gyd-fynd â’r gyfres o raglenni ar thema protest a ddangosir gan S4C dros yr wythnosau nesaf.

Mae caneuon wedi cael eu defnyddio i fynegi teimladau cryfion ers canrifoedd, ac y mae sawl enghraifft o “ganu protest”
yn ein traddodiad o ganu baledi yng Nghymru. Sefydlwyd label Sain yn ystod un o gyfnodau mwyaf cythryblus yr ymgyrchu
dros yr iaith Gymraeg, a hawliau Cymru fel cenedl, a naturiol felly oedd i hynny gael ei amlygu mewn nifer o’r caneuon a recordiwyd.
Parhaodd y thema o ganu “protest” , ac o fynegi dyheadau a theimladau cryf, hyd heddiw, er ei bod yn amrywio mewn natur o gyfnod i gyfnod.

Dengys y casgliad hwn nid yn unig fel y mae pwnc y brotest yn amrywio, ond hefyd fel yr ehangodd y cynfas fel petai, gan ddwyn i mewn gyfeiriadau at sefyllfa De Affrig, a phobol dduon Gogledd America. Ond prif bwnc y brotest gan amla, beth bynnag fo arddull y miwsig, yw brwydr yr iaith, hawliau’r gweithiwr a’r frwydr dros diriogaeth Cymru, yn enwedig yng nghyd-destun boddi Tryweryn.

Mewn unrhyw gymdeithas wâr, mae lle i brotest ac i ymgyrchu, ac i gicio yn erbyn y tresi. Arwydd o iechyd unrhyw ddiwylliant yw bod y caneuon a genir hefyd yn mynegi’r brotest honno o bryd i’w gilydd.

1.Cymru, Lloegr a Llanrwst : Y CYRFF . Efallai nad yw hon yn taro rhywun fel “cân brotest” ar yr olwg gynta, ond hon yw anthem amlycaf canu roc yr 80au gan y grwp oedd yn cicio’r tresi gydag arddeliad. 2.Ciosg Talysarn : DAFYDD IWAN. Yn 1982, doedd dim angen edrych yn bell am destun gwleidyddol, a gan fod yr heddlu “cudd” mor wirion a bygio ciosg ynNhalysarn, Dyffryn Nantlle yng ngolau dydd, roedden nhw’n gofyn amdani.

3.Rhaid yw eu tynnu i lawr: CHWYLDRO. Ganwyd sawl cân yn uniongyrchol o’r ymgyrch arwyddion ffordd yn niwedd y 60au a dechrau’r 70au, a hon yn un o’r rhai amlwg gan ferched Aberystwyth oedd yn gweithredu yn ogystal â chanu.
4.NCB (“National Coal Board”): LLYGOD FFYRNIG. Mae nifer o ganeuon hefyd yn cyfeirio at y diwydiant glo cyn iddo gael ei chwalu gan Thatcheriaeth, a hon yn un o’r mwyaf cofiadwy.
5.Adferwch y cymoedd: OMEGA. Cân o waith Delwyn Siôn, yn wreiddiol o Gwm Cynon, a deimlai fod angen codi llais dros Gymoedd diwydiannol y De ynghanol yr holl sôn am y Fro Gymraeg yn y Gorllewin.
6.Tŷ Haf : EDWARD H. DAFIS: Yn ogystal â bod yn fand poblogaidd, roedd gan Edward H. safbwynt wleidyddol bendant, a thyfodd caneuon fel hon yn ganeuon ymgyrchu pwerus.
7.Cenhadon Casineb : GERAINT JARMAN: Un o gryfderau ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith oedd nad oedd yn treulio gormod o amser yn llyfu ei briwiau. Ond yr oedd yna ddiodde, ac yr oedd yna gasineb. Sgrifennodd Geraint hon yn dilyn y driniaeth wael a gafodd Wayne Williams yn Llanidloes.
8.Nid eu hanes nhw yw fy stori i : GERAINT LOVGREEN. Un o ddatganiadau mwyaf cofiadwy y gân brotest Gymreig, sy’n tanlinellu mor amhrthnasol yw llawer o’r hanes a ddysgir yn ein hysgolion o hyd. Ai hanes Brenhinoedd Lloegr yw stori pobol Cymru?
9.Dewch i’r llysoedd : HERGEST: Un arall o gyfansoddwyr talentog y grwp Hergest, Geraint Davies, sydd yma’n annog ei gyd-Gymry i ddod i’r llysoedd barn i weld a chlywed aelodau’r Gymdeithas yn dweud eu dweud.
10.Etifeddiaeth ar werth : HUW CHISWELL: Datganiad cofiadwy eto o’r frwydr dros hunaniaeth Cymru; mewn sawl dull a modd, mae ein hetifeddiaeth fel cenedl ar werth.
11.Da ni’m yn rhan o’th gêm fach di : MAFFIA MR. HUWS: Pan oedd Reagan yn teyrnasu yn America a Thatcher yn Llundain, roedd hi’n hawdd teimlo’n ddiymadferth. Ond ateb y rocwyr o Fethesda oedd y gân bwerus hon wedi ei hanelu (a’i phostio!) at Reagan.
12.Tryweryn: MEIC STEVENS: Mae’n bosib dadlau mai boddi Cwm Tryweryn yn y 60au oedd yr un digwyddiad a ddeffrôdd Cymru yn wleidyddol, ac y mae cân Meic a Heather Jones bellach yn eiconig yn ei harwyddocâd.
13.Llwch y glo : MYNEDIAD AM DDIM: Un o gyfoeswyr bois Mynediad yng Ngholeg Aber oedd y diweddar digyfaddawd Rod Barrar o Nelson, Morgannwg, a’i gân angerddol e yw hon, o brofiad ei deulu a’i blentyndod.
14.Tân yn Llŷn : PLETHYN: I’r genhedlaeth gynt, llosgi’r Ysgol Fomio ym Mhenyberth oedd eu Tryweryn, ac y mae cân enwog Ann Fychan yn anthem deilwng i fynegi’r wers ganolog.
15.Ta-ta Botha: SOBIN A’R SMAELIAID : Ynghanol berw’r frwydr yng Nghymru, roedd yn amhosib i beidio bod yn ymwybodol o’r hyn oedd yn digwydd mewn rhannau eraill o’r byd, a phn aeth PJBotha a gwneud lle i’r newid mawr yn Ne Affrica, gwelodd Bryn Fôn gyfle i yrru gwynt teg ar ei ôl.

CD2:
1.Affrikaaners y Gymru Newydd : STEVE EAVES: Fel un oedd ynghlwm â’r ymgyrch yng Nghymru, roedd Steve bob amser mewn cyswllt â’r hyn oedd yn digwydd mewn gwledydd fel Gogledd Iwerddon a De Affrica, a gwelai dir cyffredin rhwng y brwydrau i gyd.
2.D’yn ni ddim yn mynd i Birmingham : TEBOT PIWS: Mae’n anodd credu’r peth bron, ond ar un adeg roedd y BBC am symud o Gaerdydd i Birmingham i recordio rhaglenni teledu Cymraeg, ac roedd y Tebot yn un o lawer o artistiaid a wrthododd fynd yno, a bu raid i’r BBC newid ei thiwn.
3.Niggers Cymraeg : TRWYNAU COCH. Fel y gwelodd Steve Eaves agwedd yr Afrikaaner yma yng Nghymru, tynnodd y Trwynau sylw at y ffaith fod agwedd llawer i Sais at y Cymro Cymraeg yn debyg i’r agwedd a roddodd fod i derm sarhaus fel “nigger”.
4.Arwyr estron: ENDAF EMLYN: Efallai nad yw Endaf yn ffitio i batrwm y protestiwr arferol, ond mae hon yn ei ffordd yn mynd at wraidd y cyflwr Cymreig, lle mae ein harwyr, yn enwedig ym myd adloniant, yn perthyn i ddiwylliant estron iawn.
5.Gwrthod bod yn blant bach da : TECWYN IFAN. Hon yw’r fwyaf diweddar o ganeuon y casgliad, a sgrifennwyd i Tecwyn Ifan gan Myrddin ap Dafydd, fel teyrnged i Gymdeithas yr Iaith ar ei phen-blwydd yn 50.
6.Peintio’r Byd yn Wyrdd: DAFYDD IWAN. Un o’r caneuon a gododd yn uniongyrchol o ymgyrch yr arwyddion, a chân a ddefnyddiwyd fel cad-emyn ar sawl protest a rali dros y blynyddoedd. Bellach mae’r “gwyrdd” wedi ymestyn ei arwyddocad i faes yr amgylchedd hefyd.
7.Hunaniaeth: ANWELEDIG. Mae cân Anweledig yn herio’r rhai sy’n codi waliau yn hytrach na phontio, ac yn dweud yn eu ffordd unigryw mai “undod mewn amrywiaeth” yw’r nod.
8.Nid Cymru fydd Cymru: HEN WLAD FY MAMAU: Yn 1995, daeth Rhys Mwyn a chriw amrywiol ynghyd i Stiwdio Sain, a defnyddio llais Saunders Lewis fel cefnlen i greu dwy albym gofiadwy a gwahanol.
9.Sut fedrwch chi anghofio? : HEN WLAD FY MAMAU: daw hon o’r ail albym a gyhoeddwyd yn 2000, gyda llais Sion Sebon yn arwain ar gân gofiadwy Huw Jones.
10.Pam fod eira yn wyn?: MIM TWM LLAI. Gai Toms yn rhoi ei liw ei hun ar y gân a gyfansoddwyd pan oedd yr awdur yn wynebu tymor sylweddol yng ngharchar. (Ond gwelodd y Barnwr mai gwell osgoi creu merthyron ar adeg mor boeth yn hanes Cymru)
11.Cymro (“Welshman”): NAR: Ar un ystyr, protest y Cymry ifanc sy’n poeni nad yden nhw’n gorfod ymgyrchu yw hon, am fod y gwaith wedi ei wneud yn barod. Ond caiff rhywun ei atgoffa gan natur y gân o ddatganiad Sartre fod siarad yr iaith Lydaweg ynddi ei hun yn weithred chwyldroadol.
12.Madame Guillotine: SIBRYDION: Mae Osian a Meilyr Gwynedd hefyd yn perthyn i’r genhedlaeth newydd – plant y chwyldro fel tae, ac yma maen nhw’n troi eu golygon at y Chwyldro Ffrengig a gofyn pa mor berthnasol yw brenhiniaeth.
13.I gael Cymru yn Gymru rydd : IRIS WILLIAMS. Enillydd cystadleuaeth “Cân i Gymru” yn 1974, pan oedd y syniad o Gymru a’i llywodraeth ei hun yn perthyn i fyd ffantasi a breuddwyd. Geiriau gan yr actor Robin Gruffudd, a’r alaw gan Rod Thomas.
14.Dŵr: HUW JONES. Mae hon yn gân eiconig ar sawl ystyr, ac yn ganlyniad i foddi Cymoedd Tryweryn a Chlywedog. Defnyddir y dŵr ei hun fel symbol o’r anghyfiawnder.
15.Mae’n wlad i mi: MONIARS. Mae hon yn fwy agos at naws cân wreiddiol Woody Guthrie na fersiwn mwy adnabyddus Dafydd ac Edward, gan gyfeirio at realiti tlodi a diweithdra yn ogystal â harddwch y wlad.

Rhestr y Traciau

  1. Rhaid yw eu tynnu i lawr
  2. Adferwch y Cymoedd
  3. Cenhadon Casineb
  4. Dewch i'r Llysoedd
  5. Da ni'm yn rhan
  6. Llwch y glo
  7. Ta-ta Botha
  8. D'yn ni ddim yn mynd i Birmingham
  9. Arwyr Estron
  10. Nid Cymru fydd Cymru
  11. Pam fod eira'n wyn
  12. Dŵr

Mewn Stoc
£7.99 £12.98

  • Rhifnod : Sain SCD2701
  • Label: Sain
  • Genre: Compilation
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2013

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords