Sain Records

John Owen-Jones - O Holy Night / Til I Hear You Sing

John Owen-Jones - O Holy Night / Til I Hear You Sing

Mae’r perfformiwr JOHN OWEN-JONES (Les Mis/Phantom of The Opera) yn rhyddhau fersiwn newydd o ‘O Holy Night’ fel sengl Nadolig. Yn ymuno ag ef fel lleisiau cefndirol mae’r West End Gospel Choir fydd hefyd yn perfformio gyda John mewn sioe yn Llundain ar ddyddiad rhyddhau’r sengl, Rhagfyr 1af. Bydd perfformiadau gan Louise Dearman (Wicked), Gareth Gates (Pop Idol) a bydd Christopher Biggins yn cyflwyno.

Dywedodd John Owen-Jones: “Rydw i’n hynod gyffrous ac yn falch o fod wedi cael recordio fersiwn o un o’m hoff ganeuon y Nadolig, a dwi hefyd yn gobeithio y bydd pobl yn hoff o’m cynnig unigryw ohoni!”

Mae’r sengl yma yn dilyn llwyddiant ysgubol ei albwm ddiweddaraf, ‘Unmasked’. Yn 2014 bydd y sengl yn cael ei ail-ryddhau gyda ‘Till I Hear You Sing’ ar gyfer ei gyngherddau yn ystod y gwanwyn. Yn ddiweddar mae John wedi bod yn brysur ym myd teledu ac wedi chwarae rhan yn ‘The Mill’ (Channel 4) a hefyd wedi ymddangos ar ‘Scott and Bailey’ (ITV) ac ‘In The Flesh’ (BBC3). Ymunodd John â’r canwr gospel David Phelps ar lwyfan yr O2, Llundain a thro arall gyda’r cyfansoddwr sioeau cerdd o America, Scott Alan – gan dderbyn cymeradwyaeth wresog iawn gan gynulleidfa oedd ar eu traed!

The Public Reviews Rating: ‘Unmasked’ album, ‘Bring Him Home’ shows off his strength in being able to interpret and bring such depth to the lyrics…….

Derbyniodd John glod anferthol am ei berfformiad hynod o Jean Valjean yn y sioe ‘Les Miserables’ a’i rôl fel y prif gymeriad yn The Phantom of the Opera. Gwahoddwyd John fel gwestai arbennig i gymeryd rhan mewn perfformiad gala o ‘The Phantom of the Opera’ yn Efrog Newydd eleni i ddathlu 25 mlynedd ers i’r sioe fynd i Broadway. Ar ôl bron i 2000 o berfformiadau o’r rôl fel yr ‘ysbryd opera’, mae John yn hen law bellach ac erbyn hyn yn cael ei adnabod fel y Phantom gorau fuodd erioed.

“One performer stood out – John Owen-Jones, a superb musical talent”……Musical Theatre Review

Rhestr y Traciau

  1. O Holy Night
  2. Til I Hear You Sing

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords