Sain Records

Gary Griffiths - Début

Gary Griffiths - Début

Dyma’r albym cyntaf gan y bariton Gary Griffiths, gyda’r pianydd dawnus Caradog Williams yn cyfeilio. Wrth gyfuno rhai o glasuron o’r byd opera a chân, yn ymuno â Gary mae’r soprano byd enwog Rebecca Evans, Steffan Morris ar y soddgrwth, Hywel Girls’ Choir a’r Hywel Boys Singers a’r hynod rymus Côr Meibion Pontarddulais.
‘Stand out Star’ meddai The Times ac yn un o gystadleuwyr Canwr y Byd Caerdydd, mae Gary Griffiths ar fin cychwyn gyrfa rhyngwladol a disglair yn y byd opera. Yn enedigol o Ben-bre, Sir Gaerfyrddin, aeth ymlaen i astudio yn y Guildhall School of Music and Drama ac yma fe dderbyniodd wobr hynod bwysig ‘Y Fedal Aur’ (Gold Medal). Ymunodd a chwmni Opera Cymru (WNO) gan chwarae ei rôl gyntaf fel Guglielmo yn Cosi fan Tutte, a hynny’n hynod llwyddianus. Parhaodd gyda’r cwmni i chwarae rhannau fel Schaunard (La Boheme), Masetto (Don Giovanni) a Claudio (Beatrice & Benedict) ac yn 2013 fe berfformiodd yn Nhy Opera Brenhinol Oman am y tro cyntaf gan chwarae rhan Cecil yn Maria Stuarda.
Mae nawr yn prysur gychwyn ar yrfa rhyngwladol; rhannau yn cynnwys Figaro yn Seland Newydd a rhan Count Almaviva (hefyd o Le Nozze di Figaro) gyda Wiesbaden State Opera, Yr Almaen. Mae’n edrych ymlaen yn eiddgar at y dyfodol agos i gael perfformio yn Les Troyens gan Berlioz gyda Cherddorfa Symffonig Llundain a Valery Gergiev yn Neuadd y Barbican, hefyd y Requiem gan Mozart gyda cerddorfa Cwmni Opera Cymru dan arweiniad Christoph Poppen yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd a hefyd y Rquiem gan Faure gyda cerddorfa RTE yn Neuadd Gyngerdd Dulyn. Yn ddatgeinydd rheolaidd, mae Gary wedi perfformio yn Neuadd Wigmor gyda Sir Thomas Allen, Neuadd Bridgewater gyda Alice Turner ac yng Ngwyl Lieder Rhydychen gyda Sholto Kynoch. Bydd yn recordio Mendelssohn Songs gyda Malcolm Martineau yn fuan.

Rhestr y Traciau

  1. Toreador (Carmen)
  2. Aros Mae'r Mynyddau Mawr
  3. Hai già vinta la causa (Le Nozze di Figaro)
  4. Deh, vieni alla finestra (Don Giovanni)
  5. Myfanwy
  6. Love Unspoken (The Merry Widow) - with Rebecca Evans
  7. Bella siccome un angelo (Don Pasquale)
  8. This Nearly was Mine (South Pacific)
  9. Ar Hyd y Nos - with the Pontarddulais Male Voice Choir
  10. O, du mein holder Abendstern (Tannhäuser)
  11. O Holy Night - with The Hywel Girls Choir & Hywel Boys Singers
  12. The Foggy, Foggy Dew

Mewn Stoc
£7.99 £12.98

  • Rhifnod : Sain SCD2714
  • Label: Sain
  • Genre: Classical
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2014

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords