Sain Records

Ellen Williams - Skylark

Ellen Williams - Skylark

Rhwng telynores nodedig fel mam a gweddill y teulu wedi ymwneud â cherddoriaeth mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, magwyd Ellen ar aelwyd gerddorol tu hwnt. Ar ôl graddio yn Sbaeneg a Ffrangeg o Brifysgol Caerwysg, ac wedi treulio blwyddyn yn cyfoethogi ei gwybodaeth a’i gwerthfawrogiad o draddodiadau a cherddoriaeth Sbaen ym Mhrifysgol Oviedo yng Ngogledd y wlad, mae Ellen wedi penderfynu dychwelyd i Gymru er mwyn canolbwyntio ar ei gyrfa fel cantores, gan astudio MA mewn Perfformiad Cerdd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Eisoes wedi ei sefydlu fel unawdydd, mae Ellen wedi perfformio mewn cyngherddau ledled Cymru, yn gyfrannydd rheolaidd ar y cyfryngau, ac wedi cael cryn lwyddiant mewn Eisteddfodau cenedlaethol a rhyngwladol, yn enwedig mewn canu Oratorio ac Opera cynnar, a chanu gwerin. Mae Ellen wedi mwynhau perfformio ar draws y wlad a thramor, gan gynnwys perfformiad cyntaf Beirdd Cymru, gan Karl Jenkins, gyda’r cyfansoddwr ei hun yn arwain.

Rhestr y Traciau

  1. Skylark
  2. Tanto
  3. Sleepsong
  4. Wrth i'r Afon Gwrdd a'r Lli
  5. Daronwy

Lawrlwytho Yn Unig
£3.95

  • Rhifnod : Sain SCD2722
  • Label: Sain
  • Genre: Classical
  • Fformat: EP
  • Dyddiad Rhyddhau: 2014

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords