Sain Records

Côr Heol y March - Suon y Don

Côr Heol y March - Suon y Don

Yn 2013 enillodd y côr y wobr gyntaf i Gorau Adran dan 15 oed yn Eisteddfod Yr Urdd Sir Benfro, ac fe’i dewiswyd fel un o’r pum côr plant yng Nghymru i gystadlu yng nghystadleuaeth Côr Cymru S4C y flwyddyn honno. Sefydlwyd Côr Heol y March yn 2009. Cymerodd y côr ei enw o’r pentrefan ger Llanddunwyd ym Mro Morgannwg lle mae’r côr yn ymarfer. Daw aelodaeth y côr, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys rhyw ddeugain o blant o 8 i 17 oed, o’r Fro a’r cyffiniau.

Cafodd y côr lwyddiant droeon yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, gan gynnwys ennill y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth Corau Adran dan 12 oed bedair gwaith yn olynol (2009-2012), a’r Parti Deulais Adran dan 15 oed dair gwaith yn olynol (2010-2012).
Yn 2014, enillodd y côr wobr Côr Plant y Byd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, mewn cystadleuaeth yn erbyn corau plant o Loegr, America, Rwsia, Y Weriniaeth Siec ac Awstralia.

Yn Ebrill 2015, ar ôl yn gyntaf ennill categori’r corau plant yng nghystadleuaeth Côr Cymru, daeth y côr i’r brig yn y rownd derfynol yn erbyn enillwyr y categorïau eraill, a chael ei enwi yn Gôr Cymru 2015.

Mae’r côr wedi ymddangos droeon ar raglenni S4C (Wedi 7, Dechrau Canu Dechrau Canmol, Rhydian, Degawdau Dafydd Iwan). Hefyd mae wedi cymryd rhan mewn nifer o gyngherddau gan rannu llwyfannau gydag artistiaid adnabyddus fel Dennis O’Neill, Wynne Evans, Catrin Finch, Shân Cothi, Sophie Evans, Dafydd Iwan, Côr Meibion Taf, Côr Caerdydd, a Band Pres Dinas Caerdydd.

Rhestr y Traciau

  1. Suon y Don
  2. Like a Rainbow
  3. Sanctus
  4. Cân y Glöwr
  5. Carol yr Engyl
  6. Hotaru Koi
  7. Mor Dawel
  8. Y Corwynt
  9. Fy Llong Fach Arian i
  10. The Lord Bless You and Keep You
  11. Robin Ddiog
  12. Carol y Seren
  13. Diolchwn i Ti
  14. This Little Babe
  • Rhifnod : Sain SCD2740
  • Label: Sain
  • Genre: Classical
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2015

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords