Sain Records

Cwmni Theatr Maldwyn - Gwydion

Cwmni Theatr Maldwyn - Gwydion

Wedi perfformiad ysgubol mewn pafiliwn gorlawn yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau y llynedd, dyma Gwmni Theatr Maldwyn ar y cyd gyda chwmni Recordiau Sain yn cyhoeddi recordiad o holl ganeuon y sioe gerdd wefreiddiol, Gwydion. Ysgrifennwyd y sioe gan y diweddar Derec Williams, Penri Roberts a Gareth Glyn ac mae’r sioe yn seiliedig ar Bedwaredd Gainc y Mabinogion, gan weld yr holl chwedl trwy lygaid y dewin cynllwyngar, Gwydion.
Er mwyn bodloni ei nai, Lleu Llaw Gyffes, mae Gwydion yn mynd ati i greu gwraig iddo – Blodeuwedd, y ferch a wnaed o flodau. Ond wrth i berthynas Lleu a Blodeuwedd droi’n chwerw, a fydd Gwydion yn gallu achub Lleu cyn i bethau fynd yn rhy bell?
Dyma gyfle i ail fwynhau caneuon y sioe arbennig ‘Gwydion’ gan hefyd roi ffrwyth llafur y cast a’r criw fu’n rhan o’r cynhyrchiad ar gof a chadw.

Rhestr y Traciau

  1. Agorawd / Dyma Wlad
  2. Rhyfel a Gwaed
  3. A Gwydion Gymerodd y Plentyn
  4. Fy Ngeni Dan Felltith Mam
  5. Gallwn Greu
  6. Ynot Ti mae Gwyrth y Wawr
  7. Myfi yw Merch y Gweunydd
  8. O Ferch Anesmwyth
  9. Clywch y Corn
  10. Blodau'r Banadl
  11. Dwi am Fod Gyda Thi
  12. Y Wlad fu Rhyngom Ni
  13. Gwylia'r Gusan
  14. Gwlad Ardudwy
  15. Fy Mab
  16. Gwelwyd ei Fryd a'i Liw
  17. Fe Gymer Un Eiliad
  18. Dy Anobaith
  19. Mae Dy Gysgod Dros yr Haul
  20. Gwedi Storm

Mewn Stoc
£14.99

  • Rhifnod : Sain SCD2744
  • Label: Sain
  • Genre:
  • Fformat: Album
  • Dyddiad Rhyddhau: 2016

Language

English

Fy Masged

Eitem : 0 | Gwerth : £0.00

Twitter @Sainrecords